Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (66)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol). (5 munud) NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Gosodwyd Bil
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y
Cynulliad ar 30 Ionawr 2012. Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru ar gyfer Twf a Swyddi (30 munud) |
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Y Polisi Amaethyddol Cyffredin: Safbwynt Cymru (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trefniadau newydd ar gyfer darparu cymorth gyda’r Dreth Gyngor yng Nghymru (30 munud) |
7. Dadl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ (60 munud) NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad “Adnoddau
Naturiol Cymru” ar gael drwy fynd i: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod yr achos busnes dros yr uno wedi’i gyhoeddi cyn ymgynghori ar nodau’r un corff amgylcheddol. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff amgylcheddol. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-archwilio prif nodau ac amcanion strategol yr un corff amgylcheddol er mwyn cael sicrwydd ac eglurder llwyr yn eu cylch. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y sefydliad newydd. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir hwnnw. |
Cyfnod Pleidleisio
|
8. Dadl Fer (30 munud) NDM4889 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Cyfranogaeth a grymuso yn nyfodol Gwasanaethau Gofal yng Nghymru – Mentrau Cydweithredol, Cwmnïau Cydfuddiannol a thaliadau uniongyrchol. I drafod profiadau o ran taliadau uniongyrchol yn ogystal â modelau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer gwasanaethau gofal yn dilyn adroddiad Scope “Unigoliaeth neu Gyfunoliaeth ym Maes Gofal: A all taliadau uniongyrchol helpu i greu cymunedau cryfach?”
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 23 Mai 2012